Iesu Cyfaill pechaduriaid, Wela'i'n hongian ar y pren; Dyn â'r Duwdod ynddo'n trigo, Draw yn crymu lawr ei ben! Gwelaf eto fwy rhyfeddod Yn nheilyngdod angau loes, Hedd yn rhedeg, megys afon, Dan ei ddwyfron ar y groes! Dyma Frenin, dyma Broffwyd, Dyma Archoffeiriad mawr; Brawd a Phriod i bechadur, Ceidwad llon i lwch y llawr: Cyfoeth nef yn dod i'r golwg Rhwng y lladron ar y pren; Angau'i hun yn cwrdd â'i angau Trwy farwolaeth Crist ein Pen.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Hamburgh (J Schop / F Filitz) gwelir: Dyma Frenin dyma brophwyd O fy enaid c'od dy olwg Priod y drag'wyddol hanfod |
Jesus Friend of Sinners, I see hanging on the tree; Man with God in him dwelling, Yonder bowing down his head! I see yet a greater wonder In the worthiness of the throes of death, Peace running, like a river, Under his breast on the cross! Here is a King, here is a Prophet, Here is a great High Priest; Brother and Spouse to sinners, A cheerful Saviour for the dust of the ground: The wealth of heaven coming into view Between the thieves on the tree; Death itself meeting with its death Through the mortality of Christ our head.tr. 2020 Richard B Gillion |
|